Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (260)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 3.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yng Nghymru - TYNNWYD YN ÔL |
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Fathodynnau Glas (30 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Diweddariad ar Her Ysgolion Cymru (30 munud) |
6 Trefn ystyried gwelliannau'r Bil Cynllunio (Cymru) (5 munud) NDM5745 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Cynllunio (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: a) adrannau 2 - 55 b) atodlenni 1 - 7 c) adran 1 d) Teitl Hir |
7 Dadl ar Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014 (60 munud) NDM5743 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014
Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.
Dogfen Ategol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau diwylliannol a allai fod yn atal menywod o leiafrifoedd ethnig rhag rhoi gwybod am drais yn y cartref.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod nifer yr achosion gwrth-semitig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn y DU y llynedd.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ffigurau sy'n dangos bod 23.5 y cant o aelodau bwrdd cwmnïau FTSE 100 yn fenywod.
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad cynnydd am sut y bydd mesurau i sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw neu eu golwg.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am astudiaeth d dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.
Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ymgorffori hyfforddiant ymwybyddiaeth ar sail rhyw ym mhob hyfforddiant proffesiynol Tystysgrif Addysg i Raddedigion a Meistr mewn Addysg a Gyrfaoedd i fynd i'r afael â stereoteipiau rhyw a helpu i greu amgylcheddau dysgu sy'n ymwybodol o ryw ar draws ysgolion Cymru. |
8 Dadl ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud) NDM5744 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Mae manylion Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru i'w gweld yn:
http://gov.wales/legislation/programme/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ar ôl 'Llywodraeth Cymru', mewnosod:
'ond yn gresynu at y diffyg uchelgais ynddo.'
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o fewn gweddill tymor y Cynulliad hwn a fydd yn ei gwneud yn ofynnol bod holl staff meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol. |
9 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 29 Ebrill 2015